Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
4 Ebrill 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4260
Gweld Cofnod y Trafodion
Rhoes y Llywydd deyrnged i Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, wrth iddi ymddeol. Yna, rhoddwyd teyrngedau gan arweinwyr y pleidiau a chan Dafydd Elis-Thomas, y cyn-Lywydd.
Dechreuodd yr eitem am 13.40
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.29
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NNDM6290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r
rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol
bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn
darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr
wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6289 gael ei
ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Ebrill 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru” fel
dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo
buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd.
2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU “Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.
8.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd
i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion
hyn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le 'dylai'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:
'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
10 |
38 |
54 |
Derbyniwyd/Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
39 |
6 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru” fel dull
credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo
buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd.
2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU “Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.
8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
1 |
16 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Dechreuodd yr eitem am 18.34
NDM6280
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau
Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn
unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd
yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6281
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a
Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau
Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r
fersiwn ddrafft a
osdodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.37
NDM6291 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn
cymeradwyo’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi
Trethi Datganoledig (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.48
Daeth y cyfarfod i ben am 18.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 5 Ebrill 2017